Faust

Ciw-restr ar gyfer Yr Ysbryd

(Blank) Ledrithion gwelwon! wele chwi'n dynesu,
 
(Faust) Pe costiai 'mywyd, dyred i'th amlygu!
(0, 3) 294 Pwy a'm geilw?
(Faust) {Yn cilio.}
 
(Faust) Erchyll yw dy ddrych!
(0, 3) 297 Amdanaf taer ofynnaist,
(0, 3) 298 O'm cylch fy hun y'm tynnaist,
(0, 3) 299 Ac weithian—
(Faust) Gwae! Ni allaf fod lle bych!
 
(Faust) Gwae! Ni allaf fod lle bych!
(0, 3) 301 Am olwg arnaf, daered oedd dy alw,
(0, 3) 302 Am weld fy ngwedd a gwrando ar fy llais;
(0, 3) 303 Gwrandewais. Wele fi! Pa ddychryn salw
(0, 3) 304 A'th ddeil, wyt Íwy na dyn? Mae'r eofn fryd?
(0, 3) 305 Mae'r fynwes oedd o'i mewn yn llunio byd?
(0, 3) 306 A feddai, a feiddiai, a chŵyddai gan wyniasu
(0, 3) 307 Am gaffael ag ysbrydion gymdeithasu?
(0, 3) 308 Ble'r wyt ti, Faust, y neb a'm galwai'n hŷ,
(0, 3) 309 Y neb â phob rhyw rym i'm ceisio fu?
(0, 3) 310 Ai ti yw ef, a'm hanadl i'w gylchynu,
(0, 3) 311 Y sydd hyd isaf wraidd ei fod yn crynu?—
(0, 3) 312 Rhyw ofnus bryf yn gwingo yn y llaid I
(Faust) Y fflamgi! pam y ciliwn rhagot tu?
 
(Faust) Myfi yw, a'th gydradd dithau, Faust wyf i!
(0, 3) 315 Yn llanw Bod, yn nherfysg Rhaid,
(0, 3) 316 Treiglaf ym mhob gwedd,
(0, 3) 317 Hwnt ac yma'n gwau!